23.8.06

Keep Wales Tidy

Heddiw, ceisiodd rhwyng 50 i 100 o brotestwyr rwystro loriau gwastraff rhag gyrraedd hen chwarel ger Wrecsam.

Mae'r stori yn fan hyn.

Bydd y protestwyr yn ymgasglu ger y fynedfa i'r chwarel Hafod, ger Johnstown, Wrecsam, bob bore am 7.00 o'r gloch am weddill yr wythnos.

Byddant yn picedu am awr, o 7 tan 8, er mwyn ceisio rhoi stop ar wastraff Lloegr yn cael ei taflu dros y ffin atom ni yng Nghymru.

Os ydych chi'n byw yn agos, rydym yn gofyn i chi fynd i'w cefnogi bore yfory.

Os nad dach chi'n byw yn agos, rydym yn gofyn i chi anfon yr e-bost hwn ymlaen at bobl sydd

Thatcher Sweepstake!


Pwy welodd y stori yn y Wails on Sunday am y Thatcher Sweepstake? Hoffwn i ddechrau un fama ar gweriniaeth y gweithiwr. Mae angen 11 arall i ymuno gyda fi.

£5 yr un i fewn. Dewisiwch y mis fydd yr ast yn marw. Yr enillwr yn cymryd 50% a 50% i'w rhannu rhwng y gweddill am piss yp massive. Angen talu'r £5 pob blwyddyn fel bo'r kitty yn tyfu.

Pwy sy mewn?

Rhowch eich manylion ar y negesfwrdd os am gymryd rhan.

Cliciwch fama am y negesfwrdd.

21.8.06

Yr Internationale.

Tra'n gwrando ar fersiwn Billy Brag o'r Internationale. Sgennais cerdd bach - dyw fy chwaer ddim yn meddwl ei fod yn sgannio, a'i bod "braidd yn wleidyddol" ond dyma ei gynnig i'r blog beth bynnag!

INTERNATIONALE

No Saviour from on high delivers,
No trust have we in prince or peer,
Our own right hand the chains must shiver,
Chains of hatred, greed and fear.

Minimum Wage Slavery
In a soul destroying factory,
Making millions for the boss,
And scratching round in poverty,

Screaming out in pain,
A soldier breathes his last,
On a trolley in a corridor,
Sixty years since demob.

Let's have real politik,
not new Labour rhetoric,
They've left us to rot in hell,
whilst they our bosses arse lick.

But Lucky us in Wales,
We can vote for Plaid,
Change our English bailiffs,
for ones who speak Cymraeg.

We can fight,
for their right,
to mug, rape and exploit,
"their" working class.

Managing the media,
whilst feathering their nest,
Why don't they take a workers wage?
If they're different from the rest.

No Saviour from on high delivers,
No trust have we in prince or peer,
Our own right hand the chains must shiver,
Chains of hatred, greed and fear.

Yr Internationale oedd anthem swyddogol yr undeb sofietaidd ar ol chwyldro 1917 tan tua 1943 - pan oedd y Staliniaid wedi cwblhau'r gamp o ddwyn y chwyldro o ddwylo'r gweithwyr. Roedd hefyd yn anthem i mudiadau sosialaidd a chomiwnyddol ar draws y byd.

20.8.06

Woody Guthrie - American Hero.

Clywes i raglen ar Radio 4 heddiw yn trafod caneuon Woody Guthrie, a sut nad oedd "This land was made for you and me" yn gan wleidyddol iawn. Wel nadi - di'r fersiwn sy'n cael ei ddysgu i blant ysgol ar draws America ddim yn wleidyddol iawn, achos mae'r awdurdodau wedi tynnu'r ddau benill olaf allan o'r gan cyn i gopi cyrraedd y stafell dosbarth. Dyma'r lyrics llawn.




Cytgan:
This land is your land, this land is my land
From California, to the New York Island
From the redwood forest, to the gulf stream waters
This land was made for you and me

As I was walking a ribbon of highway
I saw above me an endless skyway
I saw below me a golden valley
This land was made for you and me

Cytgan

I've roamed and rambled and I've followed my footsteps
To the sparkling sands of her diamond deserts
And all around me a voice was sounding
This land was made for you and me

Cytgan

The sun comes shining as I was strolling
The wheat fields waving and the dust clouds rolling
The fog was lifting a voice come chanting
This land was made for you and me

Cytgan

As I was walkin' - I saw a sign there
And that sign said - no tress passin'
But on the other side .... it didn't say nothin!
Now that side was made for you and me!


Cytgan

In the squares of the city - In the shadow of the steeple
Near the relief office - I see my people
And some are grumblin' and some are wonderin'
If this land's still made for you and me.


Cytgan (2x)


Cliciwch yma i glywed llais Woody Guthrie.

Mae rhaglen front row am Woody yn fama," y trafodaeth am Woody yn dechrau am 19'20

Trafodwch y stori yma yn y seiat - ffrynt diwyllianol.

17.8.06

He's fought for every bloody cause - except his bloody own.



Tra bod hogie Cymru yn marw yn Irac, ac wrth fy mod wedi son am Gallipolli'r diwrnod o'r blaen. Dwi'n meddwl fod hi'n amser am un arall o ddyfynuadau Connolly.

"All these mountains of Irish dead, all these corpses mangled beyond recognition, all these arms, legs, eyes, ears, fingers, toes, hands, all these shivering putrefying bodies and portions of bodies once warm living and tender parts of Irish men and youths – all these horrors in Flanders or the Gallipoli Peninsula, are all items in the price Ireland pays for being part of the British Empire." - James Connolly o The Workers' Republic, 20 o Daschwedd 1915.

Eto, rhowch Cymru i fewn yn lle'r Iwerddon. A dyma'n sefyllfa ni, 85 mlynedd a'r ol i'r Gwyddelod torri hualau gormes.

16.8.06

Colonists Out

Mae cynghorydd cymuned (c fach) o Sir y Fflint wedi dewis ymuno efo Plaid Ffasgaidd y BNP. Mae'r dyfyniadau gan Aran Jones, prif weithredwr Cymuned (C fawr) yn yr erthygl isod yn taro'r hoelen ar ei phen.

DYFYNIAD O'R WESTERN MULE.

Asked why she and her husband had moved to Rhewl nearly four years ago, Mrs Howard said, 'We were both retired and looking to move. We were able to buy a better house for less money than our old house in Hampshire.'

Aran Jones, chief executive of the Welsh language communities group Cymuned, said, 'Here you have somebody moving from England to another country, Wales, and telling locals that people who have come from elsewhere should be sent back to where they came from. If it wasn't for the really nasty implications, it would be farcical.

'The letter this man has sent to his constituents contains deliberately populist cheap shots while carefully avoiding the fundamental tenets of what the BNP stands for.

'I would have thought most reasonable people would find it deeply offensive that he stood for election as an independent and then decided to join the BNP. Hopefully, he will be turfed out when he next faces the electorate.'

Mae'r dyn yma yn elyn i Gymry ac yn elyn i Sosialwyr. Mae'n aelod o blaid, petaent yn enill grym na fyddai'n meddwl dwy waith am arestio pawb sy'n anghytuno'n wleidyddol gyda nhw. Mae gan Ffasgiaeth draddodiad ymysg y dosbarth rheoli Prydeinig, ac mae'r dyn yma, cyn swyddog yn fyddin yr ymerodraeth yn cynrychioli'r draddodiad yna'n llwyr.

Mae'n rhaid danfon neges glir nad oes croeso o unrhyw fath i Coloneiddwyr fel y boi yma, nad oes croeso i'w agweddau ymerodraethol cul ac atgas yn ein mysg.

Rwy'n ffyddiog y bydd Sosialwyr a Gweriniaethwyr y fro yn ffeindio ffordd o ddatgan eu gwrthwynebiad i'r cancr yma yn ein cymuned.

trafodwch y mater - a'n hymateb - ar y negesfwrdd.

14.8.06

Willie McBride it's all happened again, and again and again and again and again.

http://www.firstworldwar.com/diaries/graphics/gallipoliwounded.jpg

A hithau'n 91 mlynedd ers i Churchill a Kitchener danfon miloedd o hogie prydain a'i hymerodraeth i farw yn y gem fach ymerodraethol a elwir y rhyfel byd cyntaf. Oni'n meddwl y byddwn yn rhannu fy ngherdd am y digwyddiad gyda chi.

Ni chafodd yr ymosodiad ei gynllunio nai arwain yn gywir ac bu farw miloedd (yn arbennig ANZAC's Awstralia a Seland Newydd) yn y ffyrdd mwyaf ffiaidd tra bo'r generals a'r gwleidyddion yn cysgu ar y job neu'n eistedd ar eu tinnau miloedd o filltiroedd i ffwrdd.

Ceir mwy o wybodaeth am y digwyddiadau o Wikepedia

Dyma'r gerdd.

Y Bae

Staen claret yr ogie yn anodd i'w shifftio,
Gwin gorau Awstralia di tywallt a suro,
Bomiau y twrciaid yn ffrwydro mileidd-dra,
"Lle ffwc mae'r gwleidyddion aru danfon ni yma?"
Hoe yn y lladdfa, claddu gwareidd-dra,
a claddu y rhai na fydd yn mynd adra,
Yn Nhonnau Bae Suvla fe bwrais fy swildod,
fel ci bach 'r ol tridie agorodd fy llygaid,
Yng nghannol y lladd-dy, fe welais nad bwled,
aru rhwygo trwy'm cnawd a malu pob gobaith,
am fywyd cyffredin, ac am fedru cerdded,
Churchill a'i debyg sydd a'r cyfrifoldeb,
Er colli y frwydr - iddyn nhw'r fuddugoliaeth.


Ymddengys bo disgwyl i ni frwydro a marw yn eu rhyfeloedd imperialaidd dro ar ol tro. Nid oedd gan Gymru unrhyw frwydr a'r Almaen na Thwrci ym 1915. Fel nad oedd ganddi brwydr efo'r Ariannin yn 1982 nac Irac heddiw. Nid ymwrthod a rhyfel Irac ar sail fod yn heddychwyr trendi dylsai'r Cymry fod yn neud - ond ei wrthwynebu ar y sail gwrth imperialaidd. Gadewch i ni ddatgan yn glir nad ydym am weld yr un diferyn arall o waed Cymreig yn cael ei dywallt yn enw ymerodraeth Lloegr.

Churchill, Thatcher a Blair yw'r gelynion. Yn yr un modd ac yr oedd Galtieri a'r Kaiser yn elynnion i bobl cyffredin yr Ariannin a'r Almaen.

Beth am drefnu ymgyrch yn erbyn gadael i fyddin yr ymerodraeth recriwtio yma yng Nghymru?

6.8.06

Brwydro i adenill sir y ffin.

Mae'r mudiad gweriniaethol Cymreig, Balchder Cymru, yn ymgyrchu i gael newid cod post Sir y Fflint er mwyn pwysleisio nad yw'r ardal yn rhan o Loegr. Gallwch weld mwy am yr ymgyrch yma www.notcheshire.moonfruit.com.

Mae ymgyrchoedd fel hyn yn ffordd bwysig o godi ymwybyddiaeth ein pobl o safle darostyngedig Cymru fel gwlad, ac yn debyg o rhoi tan ym mol y Cymry pot cwrw. Am y rhesymau yma mae'r ymgyrch i'w ganmol. Ond peidied neb a meddwl mai ymladd dros ryw fan symbolau gwladol fel cod post Cymreig, Adeilad Senedd, byddin, passport neu swyddogion mewnfudo yr ydym ni. Nid newid cyfeiriadau mae'r cwmniau mawr fatha Tesco, Mc Donalds a Holiday Inn yn ei ddefnyddio yw'r rheswm dros gael Cymru annibynnol ond yn hytrach newid eu ffordd o weithredu a'u rhoi o dan rheolaeth y gweithwyr ac i sicrhau bywyd gwell i werin Cymru.

Dim ond y weledigaeth yma, a'r addewid o well fyd all creu mudiad digon cryf i herio'r ymerodaraeth brydeinig.